Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 123(2)(b) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 5 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru roi twll mewn rhan bersonol o gorff person o dan 18 oed. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru wneud trefniadau i roi, yng Nghymru, dwll mewn rhan bersonol o gorff person sydd o dan 18 oed. Mae person sydd wedi ei euogfarnu o’r naill drosedd neu’r llall yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy ddiderfyn.

Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yw tyllu’r corff mewn rhan bersonol, pan fo’n cael ei roi ac eithrio yng nghwrs triniaeth feddygol.

Rhestrir y rhannau personol o’r corff yn adran 96(2) o’r Ddeddf ac maent yn cynnwys y fron (gan gynnwys y deth a’r areola), y ffolen, y pidyn, y fwlfa ar tafod.

Mae’r diffiniad o “tyllu’r corff” wedi ei ddarparu yn adran 94(1) o’r Ddeddf a’i ystyr yw gwneud trydylliad (gan gynnwys pric neu endoriad) yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi i emwaith neu wrthrych arall o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau neu o dan reoliadau gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn, neu ei dynnu o gorff yr unigolyn. Cynhwysir pilenni mwcaidd yn y diffiniad gan y gall arwyneb rhai rhannau personol o’r corff, megis y fwlfa, gynnwys croen a philenni mwcaidd.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith yn wrthrych at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94(1) ond dim ond i’r graddau y mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys at ddibenion y drosedd yn adran 95 o’r Ddeddf (y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff person o dan 18 oed).

Mae hyn yn golygu bod gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd plentyn mewn rhan bersonol o’r corff, gyda golwg ar alluogi i unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith (er enghraifft angorau croenol a microgroenol, asennau, rhodenni, pinnau cau, deifwyr y croen, cloeon clwt) gael ei atodi i gorff y plentyn, ei fewnblannu yng nghorff y plentyn, neu ei dynnu o gorff y plentyn, bellach yn dod o fewn cwmpas y drosedd yn Rhan 5 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gyfarwyddiaeth Iechyd Poblogaethau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 123(2)(b) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

Iechyd y cyhoedd, CYMRU

Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                        2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 94(1) a 123(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 123(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar XXX 2019.

Gwrthrychau rhagnodedig at ddibenion y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn

2. Mae unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith wedi ei ragnodi at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ond dim ond i’r graddau y mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys at ddibenion y drosedd yn adran 95 o’r Ddeddf honno (y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn).

 

 

Enw

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])            2017 dccc 2. Gweler adran 124(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “rheoliadau”.